Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (160)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
|
3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)
NDM5345 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Awst 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2013.
Dogfennau ategol: |
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5346 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn GIG Cymru yn allweddol i ddileu marwolaethau y gellir eu hosgoi.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru a chanddynt gyfraddau marwolaethau uwch na'r cyfartaledd i benderfynu a yw methiannau o ran ansawdd gofal a thriniaeth yn ffactor.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfraddau marwolaeth ar gyfer pob safle ysbyty ar wefan 'Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol'.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael â’r gwaith sydd wedi pentyrru ym maes codio clinigol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i sefydlu dull o ymchwilio i ysbytai neu Fyrddau Iechyd Lleol sy’n mynd dros drothwy penodol RAMI yn gyson dros gyfnod o amser.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod data tebyg ar gael ar farwolaethau. |
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5344 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
2. Yn cydnabod rôl trafnidiaeth o ran cysylltu Cymru yn fewnol ac yn allanol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyllid canlyniadol Barnett parhaus neu unrhyw setliad ariannol digolledu arall mewn perthynas â phrosiect HS2 Llywodraeth y DU;
b) adolygu gweithrediad y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a llywodraethu trafnidiaeth yn gyffredinol;
c) ailddatgan ei hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig; a
d) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, i sicrhau bod coridorau trafnidiaeth gogledd a de Cymru wedi'u cynnwys yn rhwydwaith craidd newydd TEN-T y Comisiwn Ewropeaidd.
Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy'r linc a ganlyn:
http://cymru.gov.uk/docs/det/publications/100329ntpcy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi’n barhaus yn seilwaith trafnidiaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at yr oedi wrth weithredu addewidion allweddol o’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol gan gynnwys gwasanaeth pob awr ar Reilffordd y Cambrian, a oedd i fod i ddechrau yn 2011, a diffyg gwasanaethau uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glyn Ebwy.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at golli gwasanaethau bysiau ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i atgyfnerthu ymrwymiad y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i wella gwasanaethau bysiau.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at yr oedi wrth gyflwyno ‘Cerdyn Oyster Cymru’, a ddylai gael ei gyflwyno yn 2014, a fyddai wedi caniatáu trosglwyddo didrafferth rhwng y gwasanaethau bysiau a’r trenau.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod gwaith Llywodraeth y DU o ran cytuno i drydaneiddio Rhwydwaith y Cymoedd ac yn nodi absenoldeb y cynllun hwnnw ym Maniffesto Etholiad 2010 y blaid Lafur.
Mae Maniffesto 2010 y Blaid Lafur ar gael yn:
http://www.labour.org.uk/uploads/TheLabourPartyManifesto-2010.pdf
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i System Drafnidiaeth Metro ledled de-ddwyrain Cymru ac yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhestr o flaenoriaethau a chanddynt dargedau y gellir eu cyflawni.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i baratoi achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru ac yn credu y bydd hyn yn dwyn budd enfawr i’r gwasanaethau i deithwyr ac i’r gwasanaethau cario llwyth.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le:
yn nodi manteision HS2 i gysylltiadau gogledd Cymru ac yn cydnabod bod angen rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled y Deyrnas Unedig.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 3c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am drosglwyddo pwerau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau i’r M4. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud)
NDM5347 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Diogelwch Plant Ar-lein
Datblygu gwybodaeth a chadernid drwy addysg. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2013